Printer Friendly
The Free Library
19,585,946 articles and books
Member login
User name  
Password 
 
Join us Forgot password?

Bois bach, fedran ni ddysgu lot gan rhain.


Byline: BETHAN GWANAS Bethan Gwanas (born 16 January 1962) is a popular contemporary Welsh author, who publishes exclusively in the Welsh language. A prolific writer, she has had 17 titles published in the last decade.  

DWI An abbreviation for driving while intoxicated, which is an offense committed by an individual who operates a motor vehicle while under the influence of alcohol or Drugs and Narcotics.  yng Ngwlad y Basg rwan. A nacydi, dwi'n gwbod, dydi gogledd Sbaen ddim ar y cyhydedd. Ond nid Aryleinio ydw i rwan, nac ar wyliau chwaith.

Ges i alwad ffon gan Radio Cymruyn gofyn fyddai gen i ddiddordeb mewn cyflwyno cyfres am ieithoedd lleiafrifol, fyddai'n golygu teithio i Wlad y Basg, Llydaw a Norwy. Wel... cael fy nhalu i deithio a chyfarfod pobl ddifyr? Tic. Cael mynd yn ol i wneud chydig o waith radio, fy hoff gyfrwng? Tic. A chan mod i wedi bod yn y tair gwlad o'r blaen ac isio gweld a gwybod mwy - tic, tic, tic.

Felly dyma fi yn Zarautz Zarautz (the official and Basque spelling) is a coastal village located in Gipuzkoa Province in the Basque Country. The town is a popular tourist destination with the population swelling from its usual 22,056 to around 60,000 in summer. , un o'r trefi lle mae'r iaith Fasgeg ar ei chryfa.

Euskal Herria ydi enw Gwlad y Basgiaid yn yr iaith honno Honnō (本能 Honnou, Instinct , mae 'na dair miliwn o bobl yn byw o fewn ei ffiniau - yr un faint faint (fant) syncope.

faint
n.
An abrupt, usually brief loss of consciousness; an attack of syncope.

adj.
Extremely weak; threatened with syncope.
 a Chymru yn union, ac mae maint y wlad yn digwydd bod yn ddigon tebyg hefyd, dim ond bod rhan ohoni yng ngogledd ddwyrain Sbaen a'r rhan arall yn ne orllewin Ffrainc.

Mae'r siroedd sydd yn Ffrainc yn cael eu galw'n Dir (1) (DIRectory) A CP/M, DOS and OS/2 command that lists the file names on the disk. See DOS Dir.

(2) (DIR) (Digital Instrumentation R
 y Gogledd (Iparralde) a'r siroedd sydd yn Sbaen yn cael eu galw'n Dir y De (Hegoalde).

Mae 'na tua 250,000 o bobl yn byw yn Nhir y Gogledd; tua 60,000 ohonyn nhw'n siarad yr iaith, a hynny yn yr ardaloedd gwledig, amaethyddol gan fwya.

Yn nhir y de, mae 'na bedair sir, tair lle mae'r iaith yn gryf, a Nafarroa, lle cafodd yr iaith ei cholli ganrif oedd yn ol. Mae'n dechrau cael ei dysgu yno eto ond dydi'r llywodraeth leol ddim yn ei chefnogi o gwbl, a hyd yn oed yn tynnu arwyddion Basgeg i lawr!

Ond mae pethau'n gwbl wahanol yn y tair sir arall, sy'n cynnwys dinasoedd fel Bilbao Bilbao (bēlbä`ō), city (1990 pop. 383,798), capital of Vizcaya prov., N Spain, in the Basque Country, on both banks of the Nervión River, near the Bay of Biscay. A leading Spanish port and commercial center since the 19th cent.  (neu Bilbo bil·bo 1  
n. pl. bil·boes
An iron bar to which sliding fetters are attached, formerly used to shackle the feet of prisoners.



[Origin unknown.]
 yn yr iaith Fasgeg) a San Sebastian Sebastian, 1554–78, king of Portugal (1557–78), grandson and successor of John III. He was under the regency first of his grandmother (until 1562) and then of his uncle Henry (a cardinal and later king) until declared of age in 1568.  (Donostia).

Mae 2.1 miliwn o'r tair miliwn o Fasgiaid yn byw fan hyn, ac mae sefyllfa'r iaith yn wirioneddol gryf o'i chymharu a Chymru.

Dim ond 20% ohonon ni sy'n siarad Cymraeg (er fod rhai'n deud bod y rhif yn agosach at 25%), ond mae 32% o boblogaeth fan hyn yn siarad Basgeg yn rhugl a 23% arall yn rhyw lun o'i deall hi.

Nol yn 1981, dim ond chydig dros 20% oedd yn siaradwyr rhugl, a dros 60% methu siarad gair. Erbyn 2001, dim ond rhyw 45% oedd ddim yn gallu'r iaith, a'r rhai rhugl wedi codi i dros 30%.

Yr ysgolion sydd wedi bod yn bennaf gyfrifol am y cynnydd. Yn 1982/83, roedd 'na lai na 20% o blant yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Basgeg, ac erbyn 2004/5, roedd o wedi codi i o leia 70% - 93% mewn rhai achosion.

Iawn, mae 'na gynnydd ymysg plant wedi bod yng Nghymru hefyd, diolch i ysgolion Cymraeg y de (wel, yn eu gallu i siarad Cymraeg o leia; dydi hynny ddim yn golygu eu bod nhw'n ei defnyddio hi y tu allan i'r dobsarth). Ond dyma lle mae'r tebygrwydd yn gorffen. Yng Ngwlad y Basg, mae 'na domen o bres wedi cael ei dywallt i mewn i ddysgu'r iaith i oedolion hefyd.

Mae'n debyg fod Deddf Iaith 1982 wedi bod yn eitha pwysig yn hynny o beth, gan fod miloedd ar filoedd o weision sifil, gan gynnwys athrawon, wedi cael eu rhyddhau o'u gwaith (ar gyflog llawn!) am flwyddyn neu ddwy i ddysgu Basgeg yn iawn yn ystod yr 1980au a'r 90au.

Ac mae systemau dysgu'r iaith yn hynod drefnus o hyd; mae 'na gyfleon i gael gwersi ar lein, gyda'r nos a'r dydd, cyrsiau preswyl, aros efo teuluoedd - ac mae'r gwersi i gyd yn rhad iawn.

Ac os ydi'r dysgwyr yn mynd i bob gwers ac yn llwyddo i gyrraedd lefel arbennig, maen nhw'n cael eu pres yn ol!

Dwi'n cynhyrfu braidd o ddysgu'r pethau 'ma - dyma'r math o beth sydd ei angen arnon ni yng Nghymru. Pres i ddysgu Cymraeg i oedolion, nid jest i gyfieithu dogfennau hirfaith does 'na neb yn eu darllen!

Jest fel ro'n i'n ffarwelio efo Cymru, mi glywais i fod y Bwrdd Iaith wedi penderfynu diddymu CYD CYD California Young Democrats
CYD Calendar Year Deductible (health insurance)
CYD Children and Youth Division
CYD Crush Yiff Destroy
CYD Constant Year Dollars
, y gymdeithas sy'n edrych ar ol dysgwyr Cymraeg, yn gofalu bod ganddyn nhw gyfle i gymdeithasu drwy gyfrwng eu hiaith newydd - sy'n ofnadwy o bwysig pan dach chi'n trio dysgu unrhyw iaith.

Wel, fan hyn mae 'na gymdeithas o'r enw Topagunea sy'n gwneud yr un math o beth yn union, dim ond bod rhain newydd arwyddo cytundeb efo'r llywodraeth Fasgeg i ddatblygu un o'u nifer o gynlluniau a'i ehangu dros y wlad i gyd.

Mintzapraktika (ymarfer ymddiddan) ydi enw hwnnw, cynllun sy'n hel criwiau bychain at ei gilydd - 3, 4 neu 5 o bobl - i wneud pob math o weithgareddau efo'i gilydd - drwy gyfrwng y Basgeg wrth gwrs. Ond mae'n rhaid i un neu ddau o bob criw fod yn siaradwyr rhugl - fel chi a fi.

Faint o ddarllenwyr yr Herald fyddai'n fodlon rhoi rhywfaint o'u hamser i helpu dysgwyr ys gwn i? Achos does 'na neb yn cael eu talu am hyn.

Mi fues i'n siarad efo Basgwr rhugl oedd wrth ei fodd efo'r cynllun - 'dwi wedi gneud ffrindiau da' medda fo, 'a paid a meddwl mai'r dysgwyr ydi'r unig rai sy'n dysgu ac elwa o'r profiad.' Mae'n swnio fel chwip o syniad da i mi, ac mi ddylen ni gyd ddechrau ffurfio criwiau tebyg yn o handi (fyddai'n haws tase CYD yn dal o gwmpas, ond dyna fo...).

Mae'n hen bryd i fwy o Gymry Cymraeg wneud rhywbeth positif fel hyn yn hytrach na dim ond cwyno bod mewnf udwyr ddim yn trio digon i ddysgu Cymraeg.

Ges i sgwrs efo Bernardo Axtaga ddoe - llenor mwya Gwlad y Basg. Boi clen ac annwyl, ac yn un o'r siaradwyr mwya charismataidd i mi eu cyfarfod erioed - er nad o'n i'n deall gair roedd o'n ei ddeud!

Mae o'n gallu siarad Saesneg, ond rydan ni'n cynnal cyfweliadau drwy gyfrwng y Basgeg a'r Gymraeg efo pawb, dach chi'n gweld, gan fod 'na rywun efo ni sy'n rhugl yn y ddwy iaith - Alan King, Sais o ochrau Blackpool yn wreiddiol, fel mae'n digwydd!

Ond stori arall ydi honno - nol at Bernardo. Mae o wedi cael gwahoddiad i'r Steddfod eleni, a da chi, triwch fynd i wrando arno fo. Roedd ganddo fo bethau i'w dweud am yr iaith Fasgeg oedd jest a gwneud i mi grio.

Pethau y dylid eu cynnwys mewn erthygl fawr, bwysig, i roi cic yn ein tinau ni'r Cymry. Er enghraifft, pan ddywedodd o fod ei nofelau o'n gwerthu 20,000 o gopiau yr un (yn yr iaith Fasgeg yn unig!), ro'n i'n gegrwth. 20,000! Mae nofel Gymraeg yn gwneud yn dda os ydi hi'n gwerthu 1,500. Os ydi hi'n gwerthu 4 neu 5 mil An Internet address domain name for a military agency. See Internet address.

(networking) mil - The top-level domain for entities affiliated with US armed forces.
, mae hi'n bestseller. Ond mae'r Basgiaid fel tasen nhw i gyd yn rhan o glwb, meddai Bernardo, i gyd yn rhannu'r un cariad angerddol at yr iaith. Ac os ydi llyfr yn dda, mi wnawn nhw ei brynu o.

Er enghraifft, meddai, mi ofynodd cymydog i mi os o'n i wedi clywed rhyw CD Basgeg newydd. Nago'on. Roedd o am brynu copi i mi felly - nid ei fenthyg na'i lawrlwytho oddi ar y We, sylwch, ond ei brynu. Maen nhw'n benthyca stwff Sbaeneg i'w gilydd, ond os ydi rhywbeth yn yr iaith Fasgeg - rhaid ei brynu.

Ydan ni'r Cymry'n meddwl fel'na? Nacdan siwr! Mae'n well ganddon ni dynnu ein gilydd i lawr, sbio lawr ein trwynau a bychanu unrhyw ymdrech greadigol (ar wahan i'r 'clwb' bychan sy'n prynu cylchgronau Cymraeg, yn gwylio S4C S4C skate for cancer
S4C Siannel Pedwar Cymru (Channel 4 Wales, Television) 
 yn ffyddlon a chadw botwm y radio ar Radio Cymru).

Dyna pam ein bod ni'n dal i wfftio a chwyno na wnaiff papur dyddiol Cymraeg weithio, tra bod y Basgiaid nid yn unig a phapur dyddiol sy'n gwerthu'n dda, ond a rhwydwaith o rai lleol hefyd.

A does na'm llawer ers iddyn nhw gael iaith ysgrifenedig sy'n ddealladwy i bawb!

Ro'n i'n drist a blin ar ol y sgwrs yna, ond eto wedi fy ysbrydoli hefyd, am fod y Basgiaid wedi dangos be sy'n bosib.

Mae angen i ni'r Cymry newid ein ffordd o feddwl yn gynta wrth gwrs, a dwi'n gweddio nad ydi hi'n rhy hwyr. Ond mae angen mwy ohonon ni hefyd, a dyna pam fod angen cael mwy o oedolion i ddysgu Cymraeg - a mwy o fabis mewn ardaloedd lle mae'r iaith yn dal yn gryf!

Bron na fyswn i'n ystyried cael clec fory nesa.

Bron na fyswn i'n ystyried cael clec fory nesa

CAPTION(S):

Archfarchnad yng Ngwlad y Basg a'r arwyddion a'r cynnyrch wedi'i labelu yn yr iaith Fasgeg; Bernardo Axtaga a finnau
COPYRIGHT 2007 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2007 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

 Reader Opinion

Title:

Comment:



 

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Features
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Feb 14, 2007
Words:1438
Previous Article:Mwy o gynghorion am y lleuad newydd? BYD NATUR.
Next Article:Cofio'r cynhaeaf; LLYTHYRAU.

Terms of use | Copyright © 2012 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters | Submit articles