Printer Friendly
The Free Library
19,604,530 articles and books
Member login
User name  
Password 
 
Join us Forgot password?

Anrhydeddu mawredd Wil; Y CELFYDDYDAU.


Byline: Gan ERYL CRUMP crump  
v. crumped, crump·ing, crumps

v.tr.
1. To crush or crunch with the teeth.

2. To strike heavily with a crunching sound.

v.intr.
 

ER bod cymeriadau cofiadwy y diweddar ddramodydd o Eifionydd, William Samuel Jones (WS Jones neu Wil Sam), yn rhai Gymraeg a Chymreig o ran iaith ac anian, y maen nhw hefyd yn perthyn i steil o ysgrifennu sydd a chyd-destun Ewropeaidd iddo.

Datblygwyd Theatr yr Abswrd gan ddramodwyr byd-enwog fel Harold Pinter Noun 1. Harold Pinter - English dramatist whose plays are characterized by silences and the use of inaction (born in 1930)
Pinter
, Eugene Ionesco Noun 1. Eugene Ionesco - French dramatist (born in Romania) who was a leading exponent of the theater of the absurd (1912-1994)
Ionesco
 a Samuel Beckett yn ystod ail hanner yr Ugeinfed Ganrif.

Mae'n steil sy'n fath ar gomedi ond sy'n gymysg ag elfennau trasig gyda'r cymeriadau wedi'u caethiwo mewn sefyllfaoedd anobeithiol ac yn cael eu gorfodi i ail-adrodd ac ail-wneud yr un pethau gan ddefnyddio deialog sy'n llawn ystrydebau a chwarae ar eiriau.

"Roedd Wil Sam yntau'n feistr ar y math yma o ysgrifennu," meddai Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Cefin Roberts, "gan ei osod yn solet gyda'r dramodwyr enwog eraill yng nghanol traddodiad Theatr yr Abswrd."

Un o enghreifftiau gorau WS Jones o'r math yma o ddrama yw "Bobi a Sami" fydd ar daith yn ystod misoedd Chwefror a Mawrth o dan y teitl "Bobi a Sami...a Dynion Eraill".

Mae'r cynhyrchiad gan Theatr Genedlaethol Cymru'n cynnwys yr actorion profiadol Llyr Evans, Sion Pritchard a Llion Williams. Yn ogystal a pherfformio "Bobi a Sami" bydd y tri hefyd yn llwyfannu monolog newydd sbon Luned Emyr, "Meical" ynghyd a dwy o ddramau heb eiriau gan Samuel Beckett.

Ychwanegodd Cefin Roberts, sy'n cyd-gyfarwyddo'r cynhyrchiad gyda Judith Roberts: "Ein nod yw ceisio gwerthfawrogi a deall y dylanwadau fu ar waith Wil Sam.

"Dyma gyfle Theatr Genedlaethol Cymru i anrhydeddu mawredd y dramodydd nodedig hwn a'i gyfraniad i fyd y ddrama Gymraeg."

Oherwydd ffurf y seddi cyfyngir y cynulleidfaoedd i 120 ym mhob perfformiad.

Y DAITH

Y Llwyfan, Caerfyrddin, Chwefror 11-13

Galeri, Caernarfon, Chwefror 17-20

Theatr y Gromlech, Crymych, Chwefror 24-25

Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, Chwefror 28

Y Neuadd Les, Ystradgynlais, Mawrth 3-4

Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm, Caerdydd, Mawrth 6-7

Neuadd Goffa, Cricieth, Mawrth 10-11

Clwyd Theatr Cymru Clwyd Theatr Cymru (IPA: /klʊɨd θɛːatr ˈkɨːmˌrɨ̞/), known until 1998 as Theatr Clwyd , Yr Wyddgrug, Mawrth 13-14

CAPTION(S):

Y diweddar Wil Sam Jones Sam Jones or Samuel Jones may refer to:

In entertainment:
  • Sam Jones (Doctor Who), character in Doctor Who spin-off novels
  • Sam J. Jones (born 1954), American actor, Flash Gordon (1980)
 
COPYRIGHT 2009 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2009 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

 Reader Opinion

Title:

Comment:



 

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Jan 21, 2009
Words:331
Previous Article:Gwybod sut beth yw bod ar y tu allan.
Next Article:Cyfle i ddysgu wrth draed y meistri.

Terms of use | Copyright © 2012 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters | Submit articles