Printer Friendly
The Free Library
19,595,263 articles and books
Member login
User name  
Password 
 
Join us Forgot password?

Angen arloeswyr am ein bod mor amharod i newid; I decided to record the music of the Alarm not only in English but also in Welsh in an attempt to support the language and as a bridge to cross the cultural gap between English and Welsh speakers living in Wales Mike Peters 1990.


Byline: RHYS MWYN

Y M 1989 fe aeth yr Alarm i mewn i stiwdio ar Wadour Street yn Soho i recordio'r albym Change / Newid. Y cynhyrchydd oedd Toni Visconti, y dyn oedd tu cefn i recordiau Marc Bolan a T Rex a hefyd cynhyrchydd David Bowie.

Fe recordiwyd dwy fersiwn o'r albym, un yn Saesneg a'r llall yn Gymraeg. Y fersiwn Gymraeg sydd gennyf i, ar label Siapaneaidd ac wrth edrych ar y clawr gwelaf mae IRS An abbreviation for the Internal Revenue Service, a federal agency charged with the responsibility of administering and enforcing internal revenue laws. , label Miles Copeland, rheolwr The Police ac yn ddiweddarach Sting wrth gwrs, oedd yn berchen ar y recordiad.

Fe ddaeth yr albym allan ym Mhrydain ym 1989 ond daeth y fersiwn Gymraeg allan yn Sipan ychydig yn ddiweddarach.

Rwan y rheswm dwi'n son am yr albym yma yw fy mod wedi bod yn trio meddwl am enghreifftiau o "handgrenades diwylliannol", sef y pethau bach yna sydd yn ffrwydro ac yn creu effaith ac ymateb, rhywsut yn symud pethau ymlaen ac yn sicr yn ddiddorol.

Heb os roedd yr Alarm yn rhyddhau record yn y Gymraeg ac yn teithio i gefnogi Cymdeithas yr Iaith yn "newyddion". Roedd y band wedi rhannu'r llwyfan yn yr USA hefo neb llai na Bob Dylan Noun 1. Bob Dylan - United States songwriter noted for his protest songs (born in 1941)
Dylan
 ac ar adeg roedd yr Alarm ymhlith y pump grwp uchaf yn yr USA o ran gwerthiant.

Felly beth yn union oedd yr handgrenade? Wel mae'n debyg mai grwp mor fawr a llwyddiannus yn rhyddhau rhywbeth yn y Gymraeg, yn cyd-weithio gyda Cor Orpheus Treforys a'r Gerddorfa Symffoni Gymreig.

Dwi'n cofio sinigiaeth ar y pryd tuag at gymhellion Mike Peters a'r Alarm yn edrych fel glowyr yn y lluniau cyhoeddusrwydd, ond mi dwi'n dal i gredu hyd at heddiw fod yr effaith gafodd yr Alarm o ran codi proffil y Gymraeg yn beth gwell na phe bae'r peth 'rioed di digwydd.

Rai blynyddoedd yn ddiweddarach death cyfle'r Super Furry fur·ry  
adj. fur·ri·er, fur·ri·est
1. Consisting of or similar to fur.

2.
a. Covered with, wearing, or trimmed with fur.

b. Covered with a furlike substance.

3.
 Animals i daflu eu grenade grenade (grĭnād`), small bomb filled with explosives, gas, or chemicals and either thrown by hand or shot from a modified rifle or a grenade launcher. Grenades were in use as early as the 15th cent.  hwytha.

Ar ol cychwyn yn y Gymraeg a chael dim effaith o gwbl fe aeth y Furry's dros y ffin, sgorio sawl hit, gwneud fideos hefo Rhys Ifans, meddiannu tanc tecno a hongian allan hefo Andrew Loog Oldham Andrew Loog Oldham (born January 29 1944) is an English rock and roll producer, impresario and author. He was best known as the manager of The Rolling Stones in the 1960s, taking a flamboyant style inspired by his role model and friend Phil Spector.  yn Columbia a Howard Marks Dennis Howard Marks, also known as Mr. Nice, (born August 13 1945 in Kenfig Hill, near Bridgend, Wales) achieved notoriety as an international hashish smuggler through high-profile court cases, supposed connections with groups such as MI6, the IRA, and the Mafia, and his  ym mhob man arall.

Ar ol sawl record hir Saesneg a gyrfa llwyddiannus daeth yr amser i'r Furry's dalu'n ol; y tro yma mewn sefyllfa o nerth.

Fe wrandewais ar 'Mwng' eto yn ddiweddar ar un o'r dyddiau hynny lle ro'n yn gorfod teithio nol a mlaen i Gaerdydd mewn diwrnod a choeliwch neu beidio wrth groesi Bannau Brycheiniog roedd 'Ysbeidiau Heulog' rhywsut yn gwneud fwy o synnwyr nac o'r blaen.

Cefais fy atgoffa pa mor dda yw 'Y Teimlad' fel can ond yr hyn a'm trawodd go iawn oedd pa mor Gymreig roedd yr holl beth yn swnio. Argian, ar adegau roedd geiraiu fel "eisteddfodol" a hyd yn oed "traddodiadol" ar y radar.

Hyn oll wrth gwrs hefo tecno a gwallgofrwydd arferol y SFAs yn effeithio ar yr is-lefelau ar y recordiad ac yn wir ar is-ymwybod y gwrandawydd.

Ond fel gyda'r Alarm doedd yr handgrenades yma ond yn gallu ffrwydro oherwydd llwyddiant yn Lloegr gyntaf.

Mae 'na linell wych yn llyfr Byron Rogers am R S Thomas lle mae Rogers yn son "the Welsh don't like things that are different".

Dwi'n dweud "the Welsh like things that they are told are good by the English media" neu rhywbeth felly.

Y ffrwydriad arall holl bwysig o'r grenade Furry-aidd wrth gwrs yw mai hon yw'r CD Cymraeg sydd wedi gwerthu orau erioed.

Rhaid oedd disodli Trebor neu Tony ac Aloma os oedd Cymru i adfer ei hunan barch.

Rwan, 'dio ddiawl o ots os 'di hyn yn wir neu ddim, beth sydd yn bwysig yw fod pawb yn dweud ei fod yn wir neu 'da ni'n ol hefo Trebor.

Tu allan i roc (RAID On a Chip) Refers to RAID circuits built on the motherboard rather than a plug-in host adapter. ROMB saves a PCI slot and improves speed because it is not using a shared bus. See ROMB and RAID.

roc

white bird of enormous size. [Arab. Lit.
 a rol, mae'n debyg fod enwebiad ffilm 'Hedd Wyn' yn yr Oscars yn gymwys i gael ei alw yn handgrendae diwylliannol, er yn hollol anfwriadol, o leiaf wedyn roedd y Cymry yn gallu teimlo'n dda fod rhywbeth mor Gymreig a stori Hedd Wyn Hedd Wyn (13 January 1887–31 July 1917) was a Merionethshire farmer and poet of World War I. Born Ellis Humphrey Evans, the eldest of eleven children of Evan and Mary Evans, he used the Bardic name Hedd Wyn, Welsh for "white peace".  yn cael "llwyddiant yn Hollywood".

O feddwl am y peth efallai dydi hyn ddim yn gymaint o syndod, Cymru roddodd Burton, Griffiths, a Hopkins i Hollywood cyn i Catherine, Rhys, Ioan a Matthew gael eu geni - mi rydym yn genedl sydd wedi hen arfer a llwyddo yn Hollywood.

Dwi'n cofio'r wefr o glywed am ffilmiau fel Coming Up Roses" a "Boy Soldier" yn nhudalennau Time Out a theimlo fod Cymru yn dod allan, hyn ddeng mlynedd cyn 'Cwl Cymru'. Yn sicr roedd y ddwy ffilm yma yn grenades bach diddorol iawn.

Dwi hefyd o hyd wedi gweld rhywbeth diddorol iawn am y cymeriadau yna o Gymru fu rhaid rhedeg i ffwrdd, meddylwich am Lowri Ann (L.A) Richards a Steve Strange Steve Strange (born Steven John Harrington on May 28, 1959) is a British singer and pop icon, best remembered as an influential party promoter and as the frontman and lead singer for Visage.  yn ystod cyfnod y 'New Romantics' neu'r holl weithgareddau yna o Gasnewydd o'r Darling Buds i'r 60ft Dolls.... byth byth byth i gael cydnabyddiaeth yn yr Iaith Gymraeg.

Os yw Rogers yn gywir nad yw'r Cymry yn hoff o bethau newydd neu o newid, mae'n amlwg mai llwyddo yn Lloegr gyntaf yw'r ffordd ymlaen.

Efallai mewn dwy neu dair blynedd y bydd Duffy unwaith eto yn recordio yn y Gymraeg, fel mae Cerys a'r Ffyrc yn ei wneud nawr.

Ond hefyd mae yna ddadl arall, y ddadl fod angen i artistiaid Cymreig fod yn gwthio'r ffiniau, cydnabyddiaeth neu ddim.

Heb gydnabyddiaeth, mae'n siwrne unig iawn..... ond mae'n rhaid i rhywun neud hynny.

A'r handgrenade gorau oll ond lleiaf effeithiol? Rwyf am gynnig casetiau cynnar Malcolm Neon. Un dyn bach o Mwnt yn rhoi John Fox ac Ultravox drwy syntheseinydd Cymraeg Sir Aberteifi.

Dyna rhywun ddaru daflu un grenade ar ol y llall i ddim cydnabyddiaeth o gwbl.

Yn sicr doedd y Cymru ddim yn barod am newid heb gychwyn son am hoffi'r newid ond mae angen yr arloeswyr yna yn croesi ffiniau yn chwalu ffiniau ac yn gosod ffiniau newydd...rhai rhydd, ie rhai rhydd!

CAPTION(S):

Mike Peters
COPYRIGHT 2008 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2008 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

 Reader Opinion

Title:

Comment:



 

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Mar 5, 2008
Words:990
Previous Article:Gwisgo clocsiau i'r ysgol, a chofio siop yn eu cynhyrchu.
Next Article:Culture funding 'kick in the teeth' Bradley outrage as Government help comes with strings attached.

Terms of use | Copyright © 2012 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters | Submit articles