Adduned y dylai pob un ei chadw; BYD NATUR.BLWYDDYN Newydd Dda i chi! Ydach chi wedi gwneud addunedau blwyddyn newydd leni? Ac os ydach chi, be ydyn nhw tybed? Mi rydw i wedi gwneud tair. Y gyntaf ydi mod i'n bwriadu bwyta lot llai o siocled eleni - wel, llai, o leiaf. Yr ail ydi mod i am fynd ar ddeiet, ond yn ol y plant does 'na ddim llawer o bwrpas i mi wneud yr adduned yma gan fy mod i wedi ei gwneud hi bob blwyddyn ers o leiaf bum 1. bum - To make highly efficient, either in time or space, often at the expense of clarity. "I managed to bum three more instructions out of that code." "I spent half the night bumming the interrupt code. mlynedd ac yn dal heb ei chadw hi. A'r drydedd adduned ydi mod i'n bwriadu ailgylchu mwy. A dwi yn bwriadu cadw'r adduned yma. Wir yr! A dowch i mi drio deud pam. Y rheswmyn syml ydi os na wna i, a phawb arall, rywbeth i geisio diogelu'r blaned dirion yma rydan ni'n byw arni hi, mi fydd hi ar ben ar yr hil ddynol. Mi fydd hi'n iawn arna i, rydw i'n ddigon hen. Mi fydda i wedi mynd a fydda i ddim yma i weld y llanast a'r difrod rydw i'n ei adael ar ol i fy mhlant, a phlant fy mhlant. Ond y gwir ydi fod gennym ni gyfrifoldeb i'r cenedlaethau sy'n dod ar ein holau ni. "Ein llinynnau a ddisgynasant mewn lleoedd hyfryd", meddai'r Salmydd. Digon gwir, a go brin fod yna lefydd ar wyneb y ddaear yma sy'n hyfrytach na Chymru fach. Mae gennym ni bopeth yn does? Mynyddoedd, dyffrynnoedd, afonydd, nentydd, coedwigoedd, arfordir, glaw, heulwen. Go brin y medran ni ofyn am lawer mwy. Mae gennym ni etifeddiaeth wych y gallwn ni ei throsglwyddo i'n plant, ac oherwydd hynny mae yna gymaint mwy o gyfrifoldeb ar ein hysgwyddau ni i wneud hynny. A dyna pamrydw i am ailgylchu mwy. Dwi wedi bod yn ailgylchu pethau fel papur, dillad a gwydr ers blynyddoedd, ac yn ddiweddar mae'r bocsys ailgylchu glas a choch sy'n cael eu defnyddio yn Sir Fon wedi cyrraedd y Talwrn. Nid eu bod nhw wedi cyrraedd fy nghartref i - mae'r lon yn rhy gul i'r lori yn ol pob son, ac ydw, mi rydw i wedi sgwennu i'r cyngor amy peth. Ond dydi hynny ddim yn esgus rhag ailgylchu. Mae 'na ddigon o fanciau dal nwyddau fel papur, caniau, defnyddiau a photeli yn ddigon hwylus wrth law yn Llangefni Coordinates: Llangefni is the county town of Anglesey in Wales and contains the principal offices of Anglesey County Council. According to the UK Census 2001, the population of Llangefni was 4,500 people and is the second largest settlement on the . A does 'na ddim rheswm pam na fedrwn ni fynd a llond bocs ym mwt y car wrth fynd i wneud y siopa wythnosol. Mae'n biti nad oes yna ddim byd i ddal plastig i'w ailgylchu yno, ond dydi hynny ddim yn helbul mawr Mawr is both an electoral ward and a community of the City and County of Swansea, South Wales. Mawr has its own elected community council. The electoral ward consists of some or all of the following areas: Felindre, Craigcefnparc, Garnswllt, Rhydypandy and rural uplands of chwaith - mae modd mynd a phlastig i'r ganolfan ailgylchu sydd yng Ngwalchmai. A dyna i chi le handi - mi fedrwch chi fynd a phopeth rydach chi isio cael gwared ohono fo i fanno. Teledu, peiriannau chwarae fideos, dodrefn, matresi, olew a hyd yn oed hen sbectols, ac wrth gwrs, mae 'na un o'r canolfannau ailgylchu yma ymmhob sir drwy Gymru. Y rheswm pam fod y llywodraeth wedi targedu gwastraff bioddiraddadwy (sbwriel i chi a fi) ydi hyn: pan fydd y math yma o wastraff ar y domen, maen nhw'n cynhyrchu methan sy'n un o'r nwyon ty gwydr. Mae methan ugain gwaith yn fwy grymus na charbon charbon [Fr.] see anthrax. deuocsid ac, wrth gwrs, yn ychwanegu'n sylweddol at y cynhesu byd eang. Mae Cyfarwyddeb Tirlenwi'r Undeb Ewropeaidd yn rhoi targedau statudol ar gyfer gostwng faint faint (fant) syncope. faint n. An abrupt, usually brief loss of consciousness; an attack of syncope. adj. Extremely weak; threatened with syncope. o wastraff bioddiraddadwy (y sbwriel rydan ni'n cael gwared ohono fo o'r ty) sydd i fynd i dirlenwi. Y targedau ydi fod yn rhaid gostwng i 75% o lefel 1995 erbyn 2010; fod yn rhaid gostwng i 50% o lefel 1995 erbyn 2013, a bod yn rhaid gostwng 35% o lefel 1995 erbyn 2020. Dyma sy mewn gwirionedd wedi gyrru awdurdodau lleol i wneud rwbath ynglyn ag ailgylchu. Felly maen nhw wedi targedu pethau fel papur, plastig, poteli, defnyddiau a chaniau am eu bod hi'n weddol rhwydd gallu ailgylchu'r rhain. Maen nhw hefyd yn canolbwyntio ar wastraff y gallwch chi ei gompostio - gwastraff y gegin a gwastraff o'r ardd. Wrth gwrs, mi fedrwch chi gompostio'r rhain yn yr ardd gefn os oes gennych chi ddigon o le, neu mi fedrwch chi gael bin compostio gan eich awdurdod lleol. Mi roddodd yr Undeb Ewropeaidd darged i bob gwlad sy'n aelod o'r Gymuned Ewropeaidd - targed mae'n rhaid iddyn nhw ei gyrraedd erbyn 2020. Os ydi'r Deyrnas Gyfunol yn methu a chyrraedd y targed yna erbyn 2020, yna mi fydd yna ddirwy o rywbeth anhygoel fel EUR EUR In currencies, this is the abbreviation for the Euro. Notes: The currency market, also known as the Foreign Exchange market, is the largest financial market in the world, with a daily average volume of over US $1 trillion. 100,000 y diwrnod hyd nes y byddwn ni'n cyrraedd y targed. Yng Nghymru y targed mae'n rhaid i ni ei gyrraedd i ailgylchu a chompostio ydi 40% o'r gwastraff sy'n dod o'r ty erbyn 2009, felly dim ond 'leni sydd gennym ni i gyrraedd y targed. A wyddoch chi, os ystyriwch chi be ydi cynnwys eich wheelie bin wheelie bin Noun Brit, Austral & NZ a large container for household rubbish, mounted on wheels so that it can be moved more easily amwythnos, dwi'n siwr y cytunwch chi hefo fi y gallwch chi, fel finna, ailgylchu 40% o'i gynnwys yn weddol ddidrafferth. A dyna pam, rydw i am unwaith yn credu mod i wedi gwneud adduned flwyddyn newydd y medra i ei chadw - yn enwedig os bydd y Cyngor Sir mor garedig a gyrru'r fan ailgylchu heibio'r ty! CAPTION(S): Papur i'w ailgylchu yn y ganolfan ailgylchu, yng Ngwalchmai Llun: Bethan Wyn Jones Wyn Jones (b. 1953) is a Welsh politician and Plaid Cymru member standing in the Cardiff North constituency in the National Assembly for Wales election, 2007. Wyn Jones was born in Cardigan and currently lives in Whitchurch, Cardiff ( Caerdydd ). ; Compostio - ffordd byd natur o ailgylchu |
|
||||||||||||

Printer friendly
Cite/link
Email
Feedback
Reader Opinion