ALWYN HUMPHREYS; PUM MUNUD GYDA ...NOS yfory fe fydd Dechrau Canu Dechrau Canmol yn ymuno chynulleidfa Eglwys St Caron, Tregaron am wledd o ganu dan arweiniad Delyth Hopkins Evans, a Huw Tregelles Williams wrth yr organ. Bydd cyfle hefyd i glywed y tenor llwyddiannus lleol, Huw Rhys Evans
Rhys Karl Evans (born January 27 1982 in Swindon, Wiltshire) is an English football goalkeeper. He currently plays for Blackpool and has been loaned out to Bradford City. . Un o gyflwynwyr Dechrau Canu Dechrau Canmol yw'r arweinydd a ddaw yn wreiddiol o Fodffordd, Ynys Mn, Alwyn Humphreys ac mae'n falch iawn o gael bod yn rhan o gyfres o'r fath. Cyn ymuno thm cyflwyno Dechrau Canu Dechrau Canmol, a oeddech chi'n wyliwr selog o'r gyfres? A Dwi'n gwylio'r gyfres ers blynyddoedd lawer - roedd o'n rhan o batrwm gwylio nos Sul. Mae ganddi apl arbennig i bobl yng Nghymru gan ei bod yn cyfuno crefydd a cherddoriaeth, dwy elfen sy'n waelodol i'n traddodiad a'n treftadaeth. C A gawsoch chi eich magu yn nhraddodiad y Capel? A I Gapel Gad ym Modffordd, Ynys Mn yr oeddwn i'n mynd a dw i'n ddyledus i'r capel nid yn unig am feithrin fy niddordeb mewn cerddoriaeth ond am roi imi werthoedd penodol. Mae'r capel newydd gael ei ddymchwel, sy'n achos tristwch mawr imi. C Ydych chi'n mwynhau cyflwyno'r gyfres Dechrau Canu Dechrau Canmol? A Dwi wedi dysgu llawer iawn am Gymru wrth gyflwyno'r gyfres. Un o'r uchafbwyntiau mwyaf oedd mynd i Briordy Ewenni. Dyma oedd y tro cyntaf imi fod yno ac roedd yn agoriad llygad darganfod y lle, heb sn am fwynhau perfformiadau Rhydian Roberts, Shn Cothi a chorau'r ardal. Roedd mynd i Gapel Yorath Cwmgiedd a chael hanes dau gyn aelod, yr emynydd J T Rees a'r cyfansoddwr Daniel Protheroe, yn gofiadwy hefyd. Dechrau Canu Dechrau Canmol S4C S4C skate for cancer S4C Siannel Pedwar Cymru (Channel 4 Wales, Television) , nos yfory, 8.30pm English and Welsh
English and Welsh is the title of J. R. R. Tolkien's valedictory address to the University of Oxford of 1955, explaining the origin of the word "Welsh". subtitles sub·ti·tle n. 1. A secondary, usually explanatory title, as of a literary work. 2. A printed translation of the dialogue of a foreign-language film shown at the bottom of the screen. tr.v. s4c.co.uk/dechraucanu |
|
||||||||||||

Printer friendly
Cite/link
Email
Feedback
Reader Opinion