A wyddoch chi... Y CELFYDDYDAU.Ffeithiau diddorol a rhyfeddol am Gymru RHAGOR o bytiau difyr o Gwyddoniadur Cymru - cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach y mis yma, wedi deng mlynedd o waith ymchwil A Wyddoch chi... ...y perthyn i Gymru ddau wrthrych o'r Oes Efydd nad oes mo'u tebyg trwy Ewrop gyfan, ond sy'n bur anodd i'w dyddio'n fanwl. Un yw'r fantell aur (uchod) gwbl ryfeddol a ddarganfuwyd mewn carnedd ymMryn Ellyllon, yr Wyddgrug, yn 1833, a hynny o gwmpas ysgwyddau gwr ifanc a oedd wedi'i gladdu yno. Mae'r fantell yn perthyn, mae'n debyg, i'r Oes Efydd Ganol. Fe'i lluniwyd o eurlen wedi'i haddurno a chyfresi o foglynnau ac mae'n pwyso tua 450g. Mewn mawnog heb fod ymhell o Gastell Caergwrle (yr Hob) y darganfuwyd yr ail greiryn, a hynny yn 1820. Powlen ar ffurf cwch ydyw, ac mae'n debyg ei bod yn dyddio o ddiwedd yr Oes Efydd. Fe'i naddwyd o sial a'i haddurno ag aur i ddangos tonnau'r mor a rhwyfau a tharianau'r cychwyr, a cheir par o lygaid enfawr ar ei ddeuben. ...yrOrsedd (Rossett), sydd i'r gogledd-ddwyrain o Wrecsamac sy'n cael ei rhannu'n ddwy gan y briffordd o Wrecsam i Gaer (yr A483), yw'r fwyaf gogleddol o gymunedau sir Wrecsam. Oherwydd y tir ffrwythlon, mae yno nifer o dai bonedd a dwy felin yd fawr. Gogoniant y gymuned yw Neuadd Trefalun, plasty gwychaf Cymru o oes Elizabeth, a adeiladwyd yn 1576 ar gyfer John Trevor John Trevor may refer to:
Gyda'i gymesuredd gwych a'i ffenestri pediment pediment, in architecture, the triangular gable end on a building of classic type or a similar form used decoratively. It consists of the tympanum, or triangular wall surface, enclosed below by the horizontal cornice and above by the raking cornice, which follows the , mae Trefalun yn brawf fod cynsyniadau'r Dadeni ynglyn a phensaerniaeth wedi cyrraedd Cymru. ...nawddsantes cariadon Cymru yw Dwynwen. Dethlir ei gwyl ar 25 o Ionawr. Yn ol y tair gweddi Ladin a ychwanegwyd at Lyfr Offeren Bangor (1494), cerddodd Dwynwen dros For Iwerddon oherwydd fod arni ofn Maelgwn Gwynedd Maelgwn Gwynedd, more formally Maelgwn ap Cadwallon (c. 480 – c. 547, reigned from 520s?) (Latinized: Maglocunus, derived from Brittonic nominative *Maglocuu, genitive *Maglocunos), also known as Maelgwn Hir . Ceir fersiwn gwahanol o'i hanes yn llawysgrifau Iolo Morganwg Iolo Morganwg (or Morgannwg in modern spelling; pronounced /ˈjo.lo mor.ˈgan.nug/) was the bardic name of Edward Williams sy'n honni iddi gwympo mewn cariad a Maelon Dafodrill. Torrodd Dwynwen ei chalon pan dorrodd Maelon y dyweddiad, ac fel cosb, rhewyd Maelon gan Dduw. Rhoddodd Duw dri dymuniad i Dwynwen a dymunodd hithau ddadrewi Maelon; cael gwrando ar weddiau unrhyw un a oedd yn glaf o gariad; ac yn olaf dymunodd fod yn lleian a byw ar ei phen ei hunan ar Ynys Llanddwyn Ynys Llanddwyn or Llanddwyn Island is a small tidal island off the west coast of Anglesey, North Wales. The nearest town is Newborough. (Rhosyr). Ffynhonnell - Gwyddoniadur Cymru. Ar gael o Ionawr 31 2008 am pounds 60 (pris arbennig o pounds 50 i archebion cyn 31 Rhagfyr). I archebu ffoniwch 029 2055 7451 neu ewch i www.gwyddoniadurcymru.com |
|
||||||||||||||

Printer friendly
Cite/link
Email
Feedback
Reader Opinion