: Ail greu sgandal y `Babi Brown'.HYD yngymharol ddiweddar bu hi'n arferiad yn y capeli i roi rhywbeth bach o'r neilltu ``at y Genhadaeth'' mewn amlen gyfrinachol. Ac mi fuasai'r sawl fyddai'n rhoi yn teimlo o waelod calon eu bod yn gweithredu er budd eraill. Ar y llaw arall, gellid dadlau mai arddel math o hiliaeth oedd y cenhadon aeth i bedwar ban byd i hudo'r brodorion at Gristnogaeth, gan eu hannog i droi cefn ar eu traddodiadau a'u diwylliannau eu hunain. Ond ni ellid dweud nad oedd eu cymhellion yn rhai clodwiw. 'Nl ym 1911 brawychwyd y Gymru barchus oedd ohoni, efo'r cof am y Diwygiad yn dal yn hynod fyw, gan sgandal a fuasai wedi gweddu'n berffaith i dudalennau blaen rhai o bapurau Sul heddiw. Cyhoeddwyd erthygl yn y cylchgrawn wythnosol JohnBull o dan y pennawd `Black Baptist's Brown Baby', oedd yn dwyn cyhuddiadau difrifol yn erbyn y Parchedig William Hughes William Hughes may refer to:
Roedd yr erthygl yn cyhuddo Hughes a'i fyfyrwyr o anfoesoldeb a thwyll. Daeth William Hughes ag achos o enllib yn erbyn Horatio Bottomley Horatio William Bottomley (23 March 1860 – 26 May 1933) was a British financier, swindler, journalist, newspaper proprietor, populist politician and Member of Parliament (MP). Early life Horatio Bottomley was born in Bethnal Green, London on 23 March 1860. , perchennog y cylchgrawn, ond yn ofer. Roedd ei holl waith yn y coleg wedi ei danseilio. Nos yfory bydd y ddrama ddogfen Sgandal Congo House (S4C S4C skate for cancer S4C Siannel Pedwar Cymru (Channel 4 Wales, Television) , Nos Sul, 7.30pm) yn cymryd golwg fanwl ar yr achos llys hwn, sy'n un o'r straeon mwyaf anghyffredin yn hanes Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Chwaraeir rhan William Hughes gan Dyfan Roberts, efo GriffWilliams yn portreadu'r barnwr fu'n gwrando ar yr achos yn erbyn Bottomley. Cafodd y golygfeydd yn y llys eu ffilmio yn adeilad yr Institiwt yng Nghaernarfon. William Hughes oedd un o'r cenhadon Cymreig cyntaf i ymweld 'r Congo rhwng 1882 a 1885, ac yn ystod ei gyfnod yno gwelodd lawer o ddioddef ymysg y cenhadon. Teimla nad dyna'r ffordd orau i genhadu, a'i fwriad oedd dod brodorion y Congo i Brydain i'w haddysgu ac wedyn eu hanfon yn l i'r Congo fel cenhadon ymysg eu pobol eu hunain. Ym 1892 sefydlodd y Congo House Institute ym Mae Colwyn, gan godi'r pres i redeg y coleg ei hun. Gwnaeth gytundeb efo cwmni o fewnforwyr ffrwythau i ddod dynion ifainc drosodd o'r Congo i Gymru am ddim er mwyn eu hyfforddi. Bu'r coleg, y cyntaf o'i fath ym Mhrydain, yn rhedeg yn llewyrchus am 20 mlynedd hyd nes ymyrodd John Bull. Darn eithaf hiliol oedd erthygl Bottomley, ond roedd yn ddigon i achosi gostyngiad difrifol yn nawdd Congo House; i'r fath raddau nes i'r coleg wynebu methdaliad. ``Mae'r hanes hwn wedi ei wthio o'r neilltu ar y cyfan yn hanes Cymru, yn rhannol gan fod elfen gref o hiliaeth iddi,'' meddai Wil Aaron, cyfarwyddwr y rhaglen. ``Ond mae'n hanes diddorol, ac yn rhyfeddod iddi ddigwydd o gwbl yn y cyfnod hwnnw. Cafodd gryn ddylanwad ar Fae Colwyn ar y pryd, a bu pobol yr ardal yn gefnogol iawn o'r coleg ac yn cynnal digwyddiadau i godi nawdd ar ran William Hughes. ``Mae'n drist i'r coleg ddod i ddiwedd mor ddisymwth o achos erthyglau Bottomley, yn arbennig gan nad oedd ganddo yntau ddiddordeb mewn gwirionedd yn y stori. Ei unig gymhelliad oedd gwerthu cymaint phosib' o bapurau newydd.'' Mae'r rhaglen yn edrych yn fanwl ar yr achos llys ac ar fel y gwnaeth Horatio Bottomley, dyn pwerus oedd yn gyfaill i Lloyd George Lloyd George, David. First Earl of Dwyfor. 1863-1945. British politician who served as prime minister from 1916 to 1922. He introduced (1911) Great Britain's National Health Insurance program. a Winston Churchill, sicrhau diwedd Congo House. L Congo House was a residential college opened in Colwyn Bay Colwyn Bay (kôl`wĭn), Welsh Bae Colwyn, town (1991 pop. 27,002), Conwy, N Wales. It is a popular seaside resort. Colwyn Bay has an amusement park, several theaters, a zoo, a botanic garden, and the Pwllychrochan Woods. by the Rev William Hughes in the late 19th century to train young African men to become Christian missionaries The following are notable Christian missionaries: Early Christian missionaries These are missionaries that predate the Second Council of Nicaea so it may be claimed by both Catholic and Orthodoxy or belonging to an early Christian groups. . It ran successfully for 20 years, until the rug was pulled from under its feet in 1911 as a magazine emblazoned allegations of sexual misdemeanours against the founder across its front pages. Sgandal Congo House S4C, Nos Sul, 7.30pmSupplement to the Daily Post, Saturday, May 25, 2002 CAPTION(S): YR ACHOS: Griff Williams Griff Williams (b in Butte Montana 1966). He is the son of John Patrick "Pat" Williams (b. October 30, 1937, Helena, Montana) was a Democratic member of the United States House of Representatives from the state of Montana during the years 1979–1997. yn chwarae rhan y barnwr yn y ddrama ddogfen Sgandal Congo House; ADRODD Y GWIR:; Dyfan Roberts, dde, yn portreadu William Hughes yn Sgandal Congo House. `Mae'r hanes hwn wedi ei wthio o'r neilltu ar y cyfan yn hanes Cymru, yn rhannol gan fod elfen gref o hiliaeth iddi,'' meddai Wil Aaron, cyfarwyddwr y rhaglen |
|
||||||||||||||

Printer friendly
Cite/link
Email
Feedback
Reader Opinion